Asid ffosfforig

Asid ffosfforig
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathinorganic phosphorus oxoacid, triprotic acid Edit this on Wikidata
Màs97.977 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolH₃po₄ edit this on wikidata
Yn cynnwyshydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Asid Ffosfforig

Adnabyddir asid ffosfforig wrth enwau eraill hefyd: asid orthoffosfforig neu asid ffosfforig (V). Asid mwynol ydyw ac asid anorganig, gyda'r fformiwla gemegol H3PO4. Mae moleciwlai o asid orthoffosfforig yn uno gyda'i hunain i greu amrywiaeth o gyfansoddion a elwir hefyd yn asidau ffosfforig.

Mae asid ffosfforig yn wych am dynnu rhwd i ffwrdd; gellir ei roi'n amrwd ar offer haearn neu ddur i droi'r haearn(III) ocsid (rhwd) yn ffosffad - wedi'i hydoddi mewn dŵr:

Caiff ei ddefnyddio mewn cola a diodydd eraill i roi blas egr iddynt. Mae tua 11 mg o ffosfforws ym mhob 100g o'r ddiod[1]. Mae angen ryw 550 mg o ffosfforws y dydd ar berson i'w gadw'n iach[2]. Mae rhai yn credu ei fod yn ddrwg i iechyd pobol. Yn sicr mae lefel asid diodydd o'r fath (oherwydd yr asidau ffosfforig a sitrig) yn andwyol i'r dannedd (mae’r asidau yn toddi eu cyfansoddiad o ffosffad calsiwm). Mae peryglon y ffosffad, sy'n ffurfio wrth i asid ffosfforig ïoneiddio gadael y stumog ac ymuno a'r corff, yn fwy annelwig ac yn dibynnu ar iechyd y person[3][4]. Yn glinigol, mae hypoffosffatemia[5] (diffig ffosffat) yn fwy gyffredin[6].

  1. (Saesneg) https://www.pepsicobeveragefacts.com/home/phosphorus Archifwyd 2017-04-07 yn y Peiriant Wayback.
  2. (Saesneg) http://www.nhs.uk/Conditions/vitamins-minerals/Pages/Other-vitamins-minerals.aspx#phosphorus
  3. (Saesneg) https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC3120105/ Phosphate toxicity: new insights into an old problem. M. Shawkat Razzaque. Clin Sci (Lond). 2011 Chwefror; 120(3): 91–97. doi:  10.1042/CS20100377
  4. (Saesneg) http://emedicine.medscape.com/article/241185-overview
  5. (Saesneg) http://emedicine.medscape.com/article/242280-overview
  6. (Saesneg) https://patient.info/doctor/hypophosphataemia

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search